NEW single release / Sengl newydd

https://catrinoneill.bandcamp.com/track/tyddyn-y-gwin

Tyddyn y Gwin is a song about the current Housing Emergency that we are experiencing in not only Wales but many parts of the U.K.

Local and especially young people are being priced out of their communities, we are loosing not only physical things like schools and fire stations but also our culture and language, things which once gone can never be replaced.

Young people and families are being forced to leave to find homes and work , whole communities are being hollowed out and turned into ghost towns in the winter.
If you care about this please sign our Senedd petition to force the Welsh Government to take meaningful action on these issues.

https://petitions.senedd.wales/petitions/244842

To find out more about the work being done on this issue within Wales please visit http://www.siartercartrefi.org

Dyma gân am yr Argyfwng Tai presennol sydd yn digwydd nid yn unig yng Nghymru ond mewn sawl rhan o’r DU.

Mae pobl leol ac yn enwedig pobl ifanc yn cael eu prisio allan o’u cymunedau, rydym yn colli nid yn unig i bethau corfforol fel ysgolion a gorsafoedd tân ond hefyd ein diwylliant a’n hiaith, fudd y pethau yma yn cael ei cholli am byth.

Mae pobl ifanc a theuluoedd yn cael eu gorfodi i adael i ddod o hyd i gartrefi a gwaith , mae cymunedau cyfan yn cael eu gwagio a’u troi’n drefi wag yn y gaeaf.
Os ydych yn poeni am hyn, llofnodwch ein deiseb yn y Senedd i orfodi Llywodraeth Cymru i gymryd camau ystyrlon ar y materion hyn.

https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/244842

I gael gwybod mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud ar y mater hwn yng Nghymru, ewch i http://www.siartercartrefi.org

The background to the song / Cefndir y gan

Catrin O Neill lives in Aberdyfi – a community where over 60% of the houses are second or holiday homes. Affordable housing is extremely rare and local people have to move out of the area in order to buy a house. The history is the same in many other areas of Wales, particularly in the countryside and many of the local people feel like strangers in their own community. This is the inspiration for this song. Catrin said: “I used to feel so hopeless about what I saw happening to our beautiful village… but I refuse to sit and cry about this anymore. Instead I want to use my belief and energy to create positive change…”

During lockdown Catrin came into contact with Steve and Clara Wilson and along with a bunch of other like-minded people, they went on to establish the Home Justice Charter, in order to campaign for the current housing crisis. The ‘Tyddyn y Gwin’ the lyrics by Robat Idris and the music by Catrin himself, draw particular attention to the Home Justice Charter Parliament petition, a petition that hopes to have 5,000 signatures before December 2nd.

“The words of the song “, according to Robat Idris, ” are to give us a taste of what has happened to us in rural Wales over recent decades. Seeing our communities collapse, our children leaving and our houses being lost – a process that has accelerated in the last year or two, making us more concerned than ever about the future of our language and communities. There is no analysis here, no offering solutions, just taking the imaginary name of Tyddyn y Gwin to represent a more extensive decadence – elderly parents with their memories and the children around the world. In the end there is nothing left to show that there has ever been a Welshman there. Generations of protecting space and land and language ended in an amputation when Tyddyn y Gwin was sold under the hammer: ‘Money in a wallet, more lethal than a bullet / Rose Cottage is the Tyddyn y Gwin.'”

Catrin said: “It’s been an interesting journey over the last year. From feeling so isolated and without hope, to meeting inspiring and passionate people and creating the Charter, then out of that see this song come to life, a song inspired by the love we share for our communities and our language.”

Mae Catrin O Neill yn byw yn Aberdyfi – cymuned lle mae dros 60% o’r tai yn ail gartrefi neu’n dai gwyliau. Mae tai fforddiadwy yn hynod brin a phobl leol yn gorfod symud o’r ardal er mwyn prynu tŷ. Yr un yw’r hanes mewn sawl ardal arall o Gymru, yn enwedig yng nghefn gwlad a llawer o’r bobl leol yn teimlo fel dieithriaid yn eu cymuned eu hunain. Dyma’r ysbrydoliaeth ar gyfer y gân hon. Meddai Catrin: “O’n i’n arfer teimlo mor anobeithiol am yr hyn yr oeddwn yn ei weld yn digwydd i’n pentref hardd…ond rwy’n gwrthod eistedd a chrio am hyn mwyach. Yn lle hynny rwyf am ddefnyddio fy nghrefft a’m hegni i greu newid cadarnhaol…”

Yn ystod y cyfnod clo daeth Catrin i gysylltiad â Steve a Clara Wilson ac ynghyd â chriw o bobl eraill o’r un feddwl, aethant ymlaen i sefydlu’r Siarter Cyfiawnder Cartrefi, er mwyn ymgyrchu dros yr argyfwng tai presennol. Mae ‘Tyddyn y Gwin’ y geiriau gan Robat Idris a’r gerddoriaeth gan Catrin ei hunan, yn tynnu sylw penodol at ddeiseb Senedd y Siarter Cyfiawnder Cartrefi, deiseb sy’n gobeithio cael 5,000 o lofnodion cyn Rhagfyr yr 2il.

“Ymgais ar ffurf dameg ydi geiriau’r gân”, yn ôl Robat Idris, “i roi blas o’r hyn sydd wedi digwydd i ni yn y Gymru wledig dros y degawdau diwethaf. Gweld ein cymunedau yn chwalu, ein plant yn gadael a’n tai yn mynd allan o’n dwylo – proses sydd wedi cyflymu yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, gan wneud i ni bryderu yn fwy nag erioed am ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau. Does yna ddim dadansoddi yma, dim cynnig atebion, dim ond cymryd enw dychmygol Tyddyn y Gwin i gynrychioli dadfeiliad mwy eang – rhieni oedrannus efo’u hatgofion a’r plant ym mhedwar ban byd. Yn y diwedd does yna ddim byd ar ôl i ddangos fod yna Gymry wedi bwy yno erioed. Daeth cenedlaethau o warchod lle a thir ac iaith i ben mewn amrantiad pan werthwyd Tyddyn y Gwin dan y morthwyl: ‘Arian mewn waled mwy marwol na bwled / Rose Cottage yw Tyddyn y Gwin.’”

Meddai Catrin: “Mae wedi bod yn daith ddiddorol dros y flwyddyn ddiwethaf. O deimlo mor ynysig a heb obaith, i gwrdd â phobl ysbrydoledig ac angerddol a chreu’r Siarter, yna allan o hynny gweld y gân hon yn dod yn fyw, cân sydd wedi ei hysbrydoli gan y cariad a rannwn dros ein cymunedau a’n hiaith.” 

2 Comments

  1. I m so pleased you and many others are taking a stand. I grew up a few miles north of Aberdyfi, in our time to gain qualifications and a career all four of us moved away, left with no choice. This shouldn’t be the way of it.
    To see second homes now taking over is so destructive to community and culture. Money has spoken loudly for too long, so legislation is needed to stop this. Well done for speaking out.

    Like

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s